Cylch Meithrin Penysarn, Caban ar Iard Yr Ysgol Gynradd, Penysarn ydyn ni. Rydyn ni’n rhan o'r ddarpariaeth addysg feithrin a roddir gan Mudiad Meithrin. Mae ein Cylch yn elusen gofrestredig gyda gwirfoddolwyr yn gyfrifol am ei redeg a'i reoli. Rydym yn croesawu plant atom o 2 oed tan oedran ysgol.
Gweithgareddau:
Rydym yn dilyn cwricwlwm newydd Cymru ar gyfer lleoliadau meithrin. Mae gennym ni ystafell fawr gyda nifer o ardaloedd wahanol -Ty Bach, Jabadao , ardal Llyfrau, Ardal creadigol, ardal adeiladu, offerynnau amrywiol, ardal tu allan-gyda beics, cegin mwd, sleid a llawer o adnoddau diddorol eraill i gadw'r plant yn brysur.
Mae gan y Cylch berthynas gyda'r ysgol Gynradd i helpu'r plant drosglwyddo i'r ysgol yn rhwydd. Rydym yn mynd am dro i'r pentref yn aml, ac yn gwneud defnydd o'r lleoliad
Oriau: 9:00-11:30 (yn ystod tymor Ysgol yn unig)
Ffi: £8 y sesiwn
Mae ffioedd yn cael eu monitro’n rheolaidd a gall newid.
Cysylltwch ȃ ni
ebost: cylchmeithrinpenysarn@gmail.com
Ffôn: 07933713011 (ar gael rhwng 9 a 11:30 yn unig)
Lleoliad
Cylch Meithrin Penysarn,
Caban,
Iard Yr Ysgol Gynradd Penysarn.
Ynys Mon,
LL69 9AZ.
-
Nia Davies
Arweinydd
Rydw i'n byw yn y pentref ac wedi bod yma ers 20 mlynedd, gan fagu fy 3 phlentyn yma sydd i gyd wedi bod i'r Cylch ac wedi parhau â'u haddysg yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd leol.
Rwy'n cefnogi'r ysgol gynradd leol gyda gweithgareddau codi arian ac mae hyn yn cefnogi perthynas rhwng y Pwyllgor Rhieni ac Athrawon yr ysgol a chodi arian y Cylch.
Rwy'n dysgu dawnsio mewn tref leol gerllaw ac wedi gwneud hynny ers 30 mlynedd fel gwirfoddolwr, ac rwy'n treulio'r mwyafrif o benwythnosau gyda fy mhlant mewn gemau pêl-droed. Rwy'n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth a darllen i ymlacio.
-
Ffion Parry
Cymhorthydd
Rwyf wedi bod yn gweithio yng Nghylch Penysarn ers 8 mlynedd ac rwy'n mwynhau dysgu pethau newydd ochr yn ochr â'r plant drwy gymryd cyrsiau a'u harsylwi tra maent yn chwarae.
Rwyf wedi byw yn yr ardal am flynyddoedd lawer ac mae tri o fy mhlant wedi mynychu'r cylch - oedden nhw wrth eu boddau yma cyn mynd ymlaen i'r ysgol yn Penysarn.
Dwi hefyd yn gweithio fel gweithiwr cymorth yn gofalu am oedolion ag anableddau.
Mae treulio amser yn yr awyr agored gyda fy nheulu yn bwysig i mi - rydym yn treulio ein penwythnosau ar y beiciau modur, mynd am droeon hir ac yn gwylio ffilmiau.